Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn ymgais ar y cyd sy'n ymroddedig i reolaeth a chadwraeth gynaliadwy'r mynydd a’i dirweddau cyfagos. Mae'r bartneriaeth yn uno cymunedau lleol, busnesau, tirfeddianwyr, cadwraethwyr a chyrff cyhoeddus i ddiogelu'r amgylchedd naturiol, wrth feithrin economi a thwristiaeth y rhanbarth. Gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â materion allweddol fel newid hinsawdd, effeithiau pobl, a gwarchod cynefinoedd, mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn hyrwyddo mynediad cyfrifol i'r Wyddfa, gan ymgysylltu â chynulleidfa eang ac amrywiol drwy ei hymdrechion. Dros amser, mae rhai partneriaid wedi peidio â bod neu bellach yn amherthnasol, tra bod partneriaid newydd wedi ymuno â’r cydweithredu. Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchiad o ymdarddiad cyfleoedd cydweithio newydd, a'r angen am berthnasoedd gweithio ffres i fynd i'r afael â heriau sy'n esblygu, gan sicrhau fod Yr Wyddfa’n wydn, a bod ei hetifeddiaeth eithriadol yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ein haddewid
Cydweithiwn i feithrin a chyfoethogi’r rhinweddau sy’n gwneud Yr Wyddfa’n arbennig. Yn wyneb heriau dwys, ymrwymwn i ddatblygu datrysiadau arloesol fydd yn adfer, ac yn gofalu am yr ecosystem a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal. Tra byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion defnyddwyr, byddwn yn blaenoriaethu diogelwch yr ecosystem fregus, ein diwylliant, amaeth, a llesiant ein cymunedau.
Addysgwn y cyhoedd am Yr Wyddfa a sut i ymweld yn ddiogel a chynaliadwy, gan sicrhau effaith gadarnhaol ar y mynydd. Yn sgil hyn, ein gobaith yw i bawb barchu, mwynhau a gofalu am y mynydd a’i gymunedau.
Bydd pobl yr ardal yn greiddiol i’n gwaith, gan gyd-ddylunio atebion sy’n dod â buddion parhaol i’w cymunedau, yr amgylchedd a’r economi. Drwy gydweithio, byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth a safbwyntiau lleol yn ganolog i reoli a gwarchod y mynydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.