Astudiaeth achos #1
Sherpa’r Wyddfa
Mae’r niferoedd o deithwyr sy’n gwneud y mwyaf o wasanaethau bws Sherpa’r Wyddfa wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Ers ail-ddylunio a lansio’r gwasanaethau ar eu newydd wedd yn 2022, mae nifer teithwyr ar rwydwaith Sherpa’r Wyddfa wedi cynyddu’n gyson, gyda chynnydd o 79% o’i gymharu â’r cyfnod cyn Covid.
Yn wir, yn ystod haf 2024, roedd y niferoedd wedi cyrraedd lefelau uchaf erioed, gyda 72,296 o bobl wedi teithio ar rwydwaith bysiau Sherpa’r Wyddfa yn ardal Eryri ym mis Awst 2024. Mae’n amlwg felly fod y daith ar y Sherpa yn atyniad bob tywydd yn ei hun. Mae’n llai o ffws ar y bws – gadewch rhywun arall i boeni am y gyrru a’r parcio!
Mae gwasanaeth newydd Sherpa’r Wyddfa wedi sicrhau gwelliannau enfawr drwy gynnig gwasanaeth rheolaidd am dros 12 awr o’r dydd yn ystod oriau brig, cysylltu’n uniongyrchol â phrif orsafoedd trenau a darparu dull cost cyson i gwsmeriaid.
Mae’r gwasanaethau Sherpa yn cysylltu’n hwylus gyda gwasanaethau bws lleol a gwasanaethau’r TrawsCymru mewn lleoliadau megis Porthmadog, Caernarfon, Bangor, Llanberis a Betws y Coed sydd yn cynnig ffordd wych o deithio i, o ac o fewn Eryri. Mae’n cyfuno teithiau sy’n galluogi trigolion Gwynedd i wneud teithiau dydd-i-ddydd pwysig, gydag adnodd teithio defnyddiol i bobl sy’n ymweld â’r ardal trwy gysylltu’r prif lwybrau cerdded, meysydd parcio, pentrefi ac atyniadau’r ardal.
Mae Sherpa’r Wyddfa wedi ei gydnabod mewn sawl gwobr trafnidiaeth ers yr ail-lansiad, gan dderbyn cydnabyddiaeth yng ngwobrau Trafnidiaeth a gwobrau Bws y Deyrnas Gyfunol. Mae’r llwyddiant yma yn dyst i’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio a chynllunio llwybrau sy’n diwallu anghenion pobl leol a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal.
Mae gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Astudiaeth achos #2
Amddiffyn y dirwedd
Tom Carrick, Y BMC
Llun ©Y BMC
Gweithgareddau glanhau hanesyddol yng nghyffiniau Clogwyn y Garnedd
Ym mis Medi 2024, trefnodd Cyngor Mynydda Prydain (BMC), mewn cydweithrediad â Trash Free Trails, Plantlife, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Chymdeithas Eryri, ymdrech lanhau unigryw yng nghyffiniau Clogwyn y Garnedd. Yn anffodus, mae’r gylïau hyn yn gweithredu fel trapiau naturiol ar gyfer sbwriel sy’n cael eu chwythu neu eu gollwng o gopa’r Wyddfa.
Mae’r ardal nid yn unig yn dirwedd drawiadol ond hefyd yn lloches hanfodol i blanhigion arctig-alpaidd ac infertebratau—rhywogaethau sydd eisoes dan fygythiad oherwydd newid hinsawdd wrth i’w cynefinoedd grebachu. Yn ogystal, mae’r clogwyni yn boblogaidd ymhlith dringwyr gaeaf, felly mae prosiectau presennol y BMC yn anelu at leihau eu heffaith ar yr ecosystem fregus hon.
Am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, cafodd cyffiniau’r clogwyn uchaf ei lanhau’n drylwyr. Fe wnaeth tîm o dechnegwyr mynediad rhaff proffesiynol abseilio o leoliad ger y copa i symud sbwriel o’r gylïau. Cafodd peth o’r gwastraff ei gasglu a’i gludo ar y trên, tra bod eitemau eraill yn cael eu gostwng yn ofalus i’w hadalw gan ail dîm.
Ar yr ail ddiwrnod, aeth grŵp o 40 o wirfoddolwyr i fyny’r clogwyn o’r gwaelod, gan glirio ac arolygu’r llygredd wrth iddynt weithio. Tynnwyd cyfanswm o 2,765 eitem o wyneb y graig —809 ohonynt yn gynwysyddion diod, gyda Lucozade fel y brand mwyaf cyffredin.
Y tu hwnt i waredu gwastraff, nod yr arolwg yw cyfrannu at ymchwil amgylcheddol ehangach tra’n gweithredu fel galwad dros newid gwleidyddol. Un o brif ffocws y fenter hefyd oedd addysgu—annog ymwelwyr mynydd nid yn unig i fynd â’u gwastraff adref, ond i ystyried effaith amgylcheddol yr hyn maen nhw’n ddod hefo nhw i’r mynyddoedd yn y lle cyntaf.
Hoffai’r BMC ddiolch yn ddiffuant i’r holl wirfoddolwyr a’r sefydliadau partner a gyfrannodd at y prosiect, gan ddiolch yn arbennig i Ystâd Barron Hill am eu caniatâd caredig i gynnal y gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o ailadrodd y fenter yn 2025.
Astudiaeth achos #3
Wardeiniaid gwirfoddol Yr Wyddfa
Bob blwyddyn, mae ein tîm ymroddedig o Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa allan ar y mynydd bob penwythnos a chanol wythnos rhwng Ebrill a Thachwedd. Maent yn rhoi cyngor arbenigol a gwybodaeth hanfodol i ymwelwyr am ddiogelwch mynydd, yn casglu swm sylweddol o sbwriel oddi ar y prif lwybrau, ac yn cefnogi gwasanaeth Wardeinio a Mynediad y Parc Cenedlaethol gyda gwaith cynnal a chadw llwybrau.
Mae’r cynllun wedi datblygu’n aruthrol ers ei lansio yn 2013, gyda thîm cyfredol o dros 60 o unigolion profiadol iawn wedi’u hyfforddi, allan ar y mynydd trwy gydol tymor yr haf. Mae’r hyn a ddechreuodd ar Yr Wyddfa bellach wedi ehangu i gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli ychwanegol fel rhan o’r cynllun ar Gader Idris yn ogystal â gyda’r fan wybodaeth.
Yn ystod 2024 ar Yr Wyddfa, roedd 47 o unigolion ar batrôl am gyfanswm o 103 o ddyddiau cronnol, sef cyfanswm o 4,338 awr, ac amcangyfrifir eu bod wedi cynghori dros 4,000 o ymwelwyr.
Roedd y fan wybodaeth hefyd wedi’i lleoli yn Llanberis, Nantgwynant, a Rhyd Ddu am gyfanswm o 36 diwrnod drwy gydol y tymor. Mae’r hwb symudol hwn yn adnodd hanfodol i’r cyhoedd, gyda gwirfoddolwyr ymroddedig yn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth hanfodol.
Amcangyfrifir bod 1,000 o unigolion ychwanegol wedi elwa o arbenigedd a chymorth ein gwirfoddolwyr, a oedd wrth law i ateb cwestiynau a chynnig gwybodaeth. Er bod y rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr yn canolbwyntio ar waith mynydd uniongyrchol, mae’r rhai nad ydynt yn gallu bod allan ar y mynydd, neu sy’n well ganddynt aros ar dir is, yn dal i chwarae rhan hanfodol, gan ddarparu cefnogaeth i ymwelwyr a rhannu eu gwybodaeth werthfawr o’r fan.
Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn wyddonwyr dinasyddol, ac yn 2024, fe wnaethant gofnodi mwy o ddata sbwriel nag erioed o’r blaen—gan gasglu 1,157.69 kg. Cludwyd yr holl sbwriel hwn i lawr o’r mynydd ac fe waredwyd ag o yn gyfrifol gan y tîm.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfleoedd amrywiol i wirfoddolwyr, fel bod yn rhan o dîm, cwrdd â phobl newydd, ehangu eu profiad mynydda, a rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg newydd ymarfer. Mae eu gwaith yn rhan annatod o greu amgylchedd mwy diogel ar y mynydd a chyflawni nodau’r Cynllun hwn.