Adlewyrchu ar chwe blynedd o weithredu Cynllun Yr Wyddfa
Ers sefydlu Cynllun Yr Wyddfa yn 2018, mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi gweithredu trwy un o gyfnodau mwyaf heriol a wynebodd ein Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd gwledig eraill erioed, yn sgil effeithiau pandemig Cofid-19.
Er yr heriau, mae’r Bartneriaeth wedi cyflawni’r mwyafrif o’r pwyntiau gweithredu gan brofi llwyddiannau nodedig. Ers 2018, mae’r Bartneriaeth wedi sefydlu ei hun fel fforwm hynod effeithiol i rannu gwybodaeth, adnabod cyfleoedd cydweithio, a rhannu adnoddau. Mae gan y Bartneriaeth brofiad helaeth o arwain prosiectau arloesol, ymdrin â heriau dwys ac o ymgysylltu â cymunedau amrywiol.
Wrth adlewyrchu ar y gwaith sydd wedi ei gyflawni, mae nifer o lwyddiannau yn dod i’r amlwg. Mae’r rhain yn cynnwys menter arloesol Yr Wyddfa Ddi-blastig, yn ogystal a’r gwelliannau sylweddol i rwydwaith Sherpa’r Wyddfa. Roedd ffigyrau 2023/24 yn dangos cynnydd aruthrol o 79% o deithwyr o’i gymharu â’r lefelau cyn-Cofid. Arweiniodd cyflwyno system rhagarchebu ym Mhen y Pass at leihad sylweddol mewn achosion o barcio anghyfreithlon yn yr ardal, tra bod peilot gwasanaeth bws ychwanegol y T10 yn Ogwen wedi ei ddatblygu fel gwelliant hirdymor i opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy’r rhanbarth. Mae dros fil o unigolion a pherchnogion busnes wedi eu hyfforddi drwy gynllun Llysgennad Eryri, gan gynorthwyo i rannu prif negeseuon y Bartneriaeth. Mae ap Llwybrau’r Wyddfa wedi ei lawrlwytho dros 33,000 o weithiau. Mae cynlluniau Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa a Charu Eryri yn mynd o nerth i nerth, tra bod datblygiad arloesol a chyffroes menter Yr Wyddfa Ddi-blastig yn ennill tir.
Mae Cofid-19 wedi trawsnewid nid yn unig ffyrdd o weithio a chyfarfod, ond gwelwyd newid ym mhatrymau ymweld yn ogystal. Mae’r newidiadau hyn wedi cael dylanwad eithriadol ar waith y Bartneriaeth, ac wedi gofyn am hyblygrwydd gyda’r gallu i addasu. Enghraifft o’r newid hyn ydyw fod mwy wedi darganfod lleoliadau oedd unwaith yn gymharol ddistaw, ond sydd bellach yn gweld nifer uwch o ddefnyddwyr, sydd wedi rhoi rhai o gymunedau o gwmpas ardal Yr Wyddfa o dan bwysau sylweddol. Er bod yr effeithiau yn rai cyfarwydd - megis llygredd golau a sŵn, sbwriel, campio gwyllt, cŵn yn rhydd, parcio anghyfreithlon - roedd dwysedd defnyddwyr ar gyfnodau yn chwyddo’r effeithiau i lefelau na welwyd o’r blaen. Daethpwyd hyn a heriau nad oedd llawer o sôn amdanynt cyn y pandemig i’r amlwg, megis cerbydau gwersylla yn aros dros nos mewn lleoliadau amhriodol, baw dynol ar Yr Wyddfa, nofio yn yr awyr agored a deheuad pobl i fod wrth ddŵr. Mae’r gweithgareddau rhain, yn enwedig mewn ardaloedd gwarchodedig bregus fel Afon Cwm Llan gyfochrog a’r Llwybr Watkin, wedi codi pryderon newydd nad oeddent yn bodoli cyn y pandemig.
Mae ymateb i’r materion parcio a thrafnidiaeth mewn modd amlasiantaethol wedi profi’n heriol iawn ar brydiau. Serch hynny, mae dull gweithredu ar y cyd effeithiol wedi ei ddatblygu a’i gryfhau, sydd wedi arwain at welliannau megis y cynnydd mewn defnydd o wasanaeth Sherpa’r Wyddfa a’r lleihad mewn achosion o barcio anghyfreithlon ym Mhen y Pass. Mae’r newidiadau cadarnhaol rhain wedi eu profi ar lawr gwlad mewn amser cymharol fyr.
Mae gweithio gyda’r ychydig adnoddau sydd ar gael yn her sy’n aml yn golygu fod gweithredu rhai prosiectau yn cymryd mwy o amser nag yr hoffem. Serch hynny, mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni dros y chwe blynedd ddiwethaf yn achos i’w ddathlu, ac yn gosod sylfaen gref ar gyfer parhau gyda’r gwaith hollbwysig hwn.