Cynllun Yr Wyddfa 2025

Er nad yw’n statudol, mae’r Cynllun hwn yn cael ei ystyried yn hynod bwysig gan yr holl bartneriaid oherwydd arwyddocâd y mynydd.

Lansiwyd y Cynllun gwreiddiol yn 2018, ac wedi cynnydd sylweddol mewn rhai meysydd, mae sawl her yn parhau i fodoli. Mae’r Cynllun diweddar hwn wedi ei gyd-ddylunio gan fanylu ar sut fydd y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiad dros y bum mlynedd nesaf, gan adeiladu ar ymdrechion blaenorol ac yn cynnwys addewid o’r newydd i’r mynydd. Mae’n amlinellu’r canlyniadau gorau posibl, yn nodi’r canlyniadau o fewn cyrraedd, ac yn cyflwyno cynllun gweithredu manwl gyda phrosiectau penodol a’r partneriaid perthnasol sy’n gyfrifol am eu cyflawni.

Mae’r ddogfen hon yn gweithredu fel fframwaith strategol ar gyfer cydweithio parhaus a rheolaeth gynaliadwy o’r Wyddfa.

Darllen y Cynllun

Cynllun Yr Wyddfa 2025